Simon Brown

Rheolwr Porthladdoedd Rhanbarthol
Associated British Ports

Ymunodd Simon Brown ag ABP ym mis Tachwedd 2020 fel Rheolwr Porthladd Adrannol ar gyfer Porthladdoedd Cymru a'r De-orllewin, o fewn rhanbarth Porthladdoedd Cymru ac Arfordirol ABP. Roedd Simon gynt yn gweithio fel y Cyfarwyddwr Porthladd Mersi ar gyfer Porthladdoedd Peel yn Lerpwl, a chyn hynny cafodd yrfa lawn yn y diwydiant llongau yn gweithio gyda Chwmni Maersk rhwng 2006 a 2018.  Ymunodd Simon â P&OCL ar ôl graddio, ac mae wedi gweithio yn y DU, Kenya, Hong Kong a Singapore, a’r UDA cyn i Maersk gaffael P&O Nedlloyd yn 2005.