Tim Peppin

Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy
Welsh Local Government Association

Mae Tim wedi gweithio ym maes llywodraeth leol ers 1988, gan ddechrau fel Swyddog Ymchwil Economaidd gyda Chyngor Sir Cleveland, cyn ymuno â Chyngor Sir Canolbarth Morgannwg yn 1992. Yna, daeth yn Rheolwr Polisi ac Ymchwil yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dilyn adsefydlu llywodraeth leol yn 1996. Bu’n gweithio fel prif swyddog datblygu cynaliadwy a chysylltiadau corfforaethol gyda’r sector gwirfoddol. Roedd yn chwarae rhan fawr mewn mentrau adfywio cymunedol. Yn 2004, daeth Tim yn Bennaeth Polisi a Gwasanaethau Democrataidd yng Nghaerffili, ac yn aelod o’i Dîm Rheoli Corfforaethol.

Ymunodd Tim â ChLlLC fis Rhagfyr 2007 fel Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy. Mae’r rôl yn cynnwys ystod eang o faterion adfywio ac amgylcheddol gan gynnwys effeithlonrwydd gwastraff/adnoddau, trafnidiaeth, cynllunio, datblygiad economaidd/busnes a chymunedol, llifogydd a dŵr, cefn gwlad a bioamrywiaeth, Parciau Cenedlaethol, adfywio gwledig a rolau corfforaethol ynghylch pontio Ewropeaidd, datgarboneiddio a datblygu cynaliadwy.