Julie James AS

Gweinidog Newid Hinsawdd
Llywodraeth Cymru

Ganwyd Julie James yn Abertawe, ond treuliodd ran helaeth o’i hieuenctid yn byw o amgylch y byd gyda’i theulu. Treuliodd Julie ddechrau ei gyrfa yn Llundain cyn symud yn ôl i Abertawe gyda’i gwr i fagu ei thri o blant a bod yn nes at ei theulu. Mae Julie’n ymgyrchwr gwyrdd ymroddgar, yn amgylcheddwr ac yn nofiwr a sgïwr brwd.

Cyn iddi gael ei hethol yn Aelod o’r Senedd ar gyfer Gorllewin Abertawe, roedd Julie’n gyfreithiwr amgylcheddol a chyfansoddiadol blaengar. Cyn hyn, roedd hi’n brif weithredwr cynorthwyol yng Nghyngor Abertawe. Treuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa gyfreithiol mewn llywodraeth leol, yn gweithio fel cyfreithiwr polisi gyda Bwrdeistref Camden yn Llundain cyn dychwelyd i Abertawe i weithio i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg, ac yna Dinas a Sir Abertawe.  

Ers cael ei hethol, mae Julie wedi bod yn rhan o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Pwyllgor Menter a Busnes a’r Pwyllgor Cynaliadwyedd. Cyhoeddodd Julie’r Adroddiad ‘Dylanwadu Moderneiddiad Polisi Caffael yr UE’ fel Cadeirydd Grŵp Tasg a Gorffen Caffael y Pwyllgor Menter a Busnes. Roedd Julie hefyd yn Gadeirydd Grŵp Tasg a Gorffen Polisi Pysgodfeydd Cyffredin y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Cafodd Julie James ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ym mis Medi 2014. Ym mis Mai 2016, penodwyd Julie’n Weinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Cafodd ei phenodi’n Arweinydd y Tŷ a Phrif Chwip ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018, penodwyd Julie’n Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Cafodd ei phenodi’n Weinidog Newid Hinsawdd ar 13 Mai 2021.