Simon Hart AS

Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Llywodraeth y DU

Penodwyd Simon Hart yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 16 Rhagfyr 2019. Cyn hynny, roedd yn Ysgrifennydd Seneddol (Gweinidog Gweithredu) yn Swyddfa’r Cabinet.

Cafodd ei ethol yn AS Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ym mis Mai 2010.

Cefndir

Ganwyd Simon yn Wolverhampton a chafodd ei fagu yn ardal y Cotswolds. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Radley cyn mynychu’r Coleg Amaethyddol Brenhinol yn Cirencester.

Gyrfa wleidyddol

Cyn cael ei ethol i’r Senedd, bu Simon yn aelod o sawl pwyllgor, gan gynnwys:

Pwyllgor Dethol Materion Cymru;

Pwyllgor Dethol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig;

Pwyllgor Dethol Diwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol;

Pwyllgor Dethol Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Mae Simon hefyd wedi bod yn aelod/Cadeirydd o sawl APPGau gan gynnwys Twristiaeth yng Nghymru, Dysgu y tu allan i’r Dosbarth, Ynni Morol a Morlynnoedd Llanw, Masnach yr UE/UDA ac eraill.

Roedd hefyd yn Gennad Masnach y Prif Weinidog i Panama, Costa Rica a’r Weriniaeth Ddominicaidd.

Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Gweithiodd Simon fel Syrfëwr Siartredig yng Nghaerfyrddin a Hwlffordd, a bu’n rhan o’r Fyddin Diriogaethol am bum mlynedd yn Hwsariaid Brenhinol Swydd Gaerloyw (rhan o Rydd-ddeiliaid Brenhinol Wessex).

Cyn cael ei ethol yn AS, roedd Simon yn Brif Weithredwr y Cynghrair Cefn Gwlad.