Julie James AS

Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Llywodraeth Cymru

Cafodd Julie James ei geni yn Abertawe, ond treuliodd gyfnodau sylweddol o’i phlentyndod yn byw ledled y byd gyda’i theulu. Treuliodd Julie ddyddiau cynnar ei gyrfa yn Llundain cyn symud yn ôl i Abertawe gyda’i gŵr i fagu eu tri o blant ac i fod yn agosach at ei theulu. Mae Julie yn ymgyrchydd gwyrdd ymroddedig, yn amgylcheddwr ac yn nofiwr a sgïwr brwd.

Cyn iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, roedd Julie yn gyfreithwraig amgylcheddol a chyfansoddiadol blaenllaw. Cyn hyn, hi oedd prif weithredwr cynorthwyol Cyngor Abertawe.

Ers cael ei hethol, mae Julie wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Menter a Busnes a’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Cyhoeddodd Julie yr Adroddiad ‘Dylanwadu ar Foderneiddio Polisi Caffael yr UE’ fel Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Caffael y Pwyllgor Menter a Busnes. Mae Julie hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Polisi Pysgodfeydd Cyffredin y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Cafodd Julie ei phenodi yn Weinidog Newid Hinsawdd ym mis Mai 2021, ar ôl iddi wasanaethu fel Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg (2014-2016), Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth (2016-2017), Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip (2017-2018) a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (2018-2021).