Lorraine Whitmarsh

Cyfarwyddwr
Y Ganolfan ar gyfer Newid Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol (CAST), Prifysgol Caerfaddon

Mae’r Athro Lorraine Whitmarsh yn seicolegydd amgylcheddol, yn arbenigo mewn canfyddiadau ac ymddygiad mewn perthynas â newid hinsawdd, ynni a thrafnidiaeth, yn Adran Seicoleg, Prifysgol Caerfaddon. Hi yw Cyfarwyddwr Canolfan ar gyfer Newid Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol (CAST) y DU, sydd wedi’i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Mae hi’n cynghori sefydliadau llywodraethol a sefydliadau eraill yn aml ar newid mewn ymddygiad carbon isel a chyfathrebiadau ynghylch newid hinsawdd, roedd hi’n un o arweinwyr arbenigol Cynulliad Hinsawdd y DU, a hi yw Prif Awdur Chweched Adroddiad Asesu Gweithgor II yr IPCC. Mae ei phrosiectau ymchwil yn cynnwys astudio cymeriant cig, ymddygiadau effeithlonrwydd ynni, lleihau gwastraff ac ail-ddefnyddio bagiau plastig, canfyddiadau o dechnolegau clyfar a cherbydau trydan, ffyrdd carbon isel o fyw, ac ymatebion i newid hinsawdd.