Huw Thomas

Arweinydd Cyngor Caerdydd

Y Cynghorydd Huw Thomas yw Arweinydd Cyngor Caerdydd ers mis Mai 2017.

Dan ei arweinyddiaeth, mae Cyngor Caerdydd wedi canolbwyntio ar dwf cynhwysol, gyda phrosiectau sylweddol yn cynnwys rhaglen adeiladu ysgolion gwerth £300m, adeiladu 1000 o dai Cyngor erbyn 2022, datblygiadau sylweddol i seilwaith trafnidiaeth, a chyflwyno Arena Dan Do newydd sbon gyda lle i 15,000 o bobl.

Mae Huw wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Llafur ar ran ward Y Sblot yng Nghaerdydd ers 2012, ac wedi ymgymryd â nifer o rolau Cabinet cyn dod yn Arweinydd. Ef yw Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr. Ef hefyd yw Aelod Cabinet dros Ddinasoedd Craidd y DU, sy'n gyfrifol am Ddiwylliant, ac roedd yn aelod o fwrdd Ymchwiliad y Dinasoedd Diwylliannol. 

Mae Huw yn rhugl yn y Gymraeg a graddiodd gyda gradd Gerddoriaeth o Brifysgol Rhydychen cyn cwblhau gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar wahân i wleidyddiaeth, mae Huw wrth ei fodd â chwaraeon, diwylliant a’r celfyddydau, yn ogystal â mwynhau’r awyr agored ac mae'n feiciwr brwd.