Mike Bruford

Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol
Prifysgol Caerdydd

Mae Mike Bruford yn Athro Bioamrywiaeth yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd ac ef yw Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol Prifysgol Caerdydd. Mae’n fiolegydd cadwraeth sy’n gweithio ar reoli bridiau da byw prin a rhywogaethau sydd mewn perygl, yn y DU a ledled y byd. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn sut mae rhywogaethau yn addasu a sut allent addasu i ymdopi â newid hinsawdd yn y dyfodol, gan gyfuno genomeg, ymddygiad a modelu hinsawdd. Ef yw arweinydd academaidd rhaglen Anghenion Tystiolaeth ac Ymchwil Bioamrywiaeth ac Ecosystemau Llywodraeth Cymru, a Chyd-gadeirydd grŵp arbenigedd geneteg yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur. Drwy ei waith fel Deon, mae ganddo gysylltiad agos â datblygiad llwybr Prifysgol Caerdydd at Sero Net erbyn 2030, yn dilyn Datganiad Argyfwng Hinsawdd y Brifysgol yn 2019.