Paul Buckley

Y Prif Wyddonydd, Rheolwr Rhaglen y Bartneriaeth ar Effeithiau newid Hinsawdd ar
Y Môr Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu

Mae Paul Buckley yn Brif Wyddonydd yng Nghanolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (asiantaeth weithredol Defra), yn arbenigo mewn cyfathrebu â gwneuthurwyr polisi am y wyddor newid hinsawdd. Yn fwyaf penodol, mae wedi bod yn rheolwr rhaglen ar gyfer Partneriaeth Effeithiau’r Newid Hinsawdd ar y Môr (MCCIP) ers dros bymtheg mlynedd. Mae MCCIP yn gweithredu fel canolbwynt yn y DU, yn y gweinyddiaethau datganoledig, ac yn Iwerddon o ran trosglwyddo tystiolaeth wyddonol o effeithiau newid hinsawdd i’r gymuned bolisi. Mae Paul hefyd yn gydawdur y penodau newid hinsawdd Charting Progress 2 ac Adolygiad o Ansawdd a Safonau (QSR) Confensiwn Oslo a Paris (OSPAR), yn ogystal â chyfrannu’n eang at ofynion y ddeddf newid hinsawdd (adroddiadau Asesiadau o Risgiau Newid Hinsawdd (CCRA), Rhaglen Ymaddasu Genedlaethol (NAP) a Phŵer Adrodd ar Ymaddasu (ARP), yn ogystal â dangosyddion Y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (CCC)). Mae wedi gweithio ar brosiectau newid hinsawdd y Caribî, y Môr Tawel, yr UE a’r Dwyrain Canol ac yn cyhoeddi’n rheolaidd. Mae ganddo brofiad helaeth o gysylltu â’r sectorau morol ar ymaddasu i newid hinsawdd yn ogystal â chysylltu â’r Cyhoedd ynghylch eu hagweddau tuag at beryglon newid hinsawdd forol. Mae gan Paul brofiad helaeth o reoli prosiectau yn y DU ac yn rhyngwladol, trwy Ganolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu yn ogystal â thrwy waith blaenorol yn y sector preifat ar gyfer asiantaethau ymchwil i’r farchnad ryngwladol.