Karen Robinson

Cynghorydd Arweiniol Arbenigol ar gyfer Cynefinoedd Morol
Cyfoeth Naturiol Cymru

Karen Robinson ydy’r cynghorydd arweiniol arbenigol ar gyfer cynefinoedd morol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gweithio yn y Tîm Ecosystemau Morol ac Arfordirol. Mae gan Karen gefndir yn y byd ecoleg benthig ac ar hyn o bryd yn gyfrifol am ddatblygu tystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cefnogi’r cyngor yn ymwneud â chynefinoedd morol ar draws sawl disgyblaeth yn amrywio o newid hinsawdd i waith achos ar lefel strategol. Dros y bymtheg mlynedd ddiwethaf mae hi wedi arwain ar nifer o brosiectau yn ymwneud â phwysau ac effeithiau newid hinsawdd ar gynefinoedd morol yng Nghymru, gan gynnwys asesiad o effeithiau sy’n cael eu hachosi gan yr hinsawdd ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig forol, a gwerthusiad o storfeydd carbon glas o fewn ardal forol Cymru. Mae Karen yn aelod o grŵp llywio Partneriaeth Effeithiau’r Newid Hinsawdd ar y Môr (MCCIP) ac wedi bod yn aelod o’r gweithgor yn gyfrifol am ddatblygu a chyhoeddi adroddiad 2020 MCCIP. Mae hi wedi cyfrannu at sawl adroddiad addasu ac yn ddiweddar wedi bod yn gydawdur adroddiad cryno ar effeithiau newid hinsawdd ar yr amgylchedd morol yng Nghymru.