Emma McKinley

Cymrawd Ymchwil, Sylfaenydd Rhwydwaith y Gwyddorau Cymdeithasol Morol
Prifysgol Caerdydd

Mae Dr Emma McKinley yn Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddeall cymhlethdod y berthynas rhwng y gymdeithas a’r môr, gan gymryd i ystyriaeth y canfyddiadau, yr agweddau a’r gwerthoedd amrywiol a geir gan gymunedau a chynulleidfaoedd gwahanol, a chan ystyried sut y gellir gwneud defnydd o’r mewnwelediad hwn er mwyn cefnogi rheolaeth effeithiol o’r môr. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys INTERREG, prosiect wedi’i ariannu gan Iwerddon-Cymru, Cymunedau Arfordirol yn Ymaddasu Gyda’i Gilydd (CCAT - https://www.ccatproject.eu/cy/), sy’n canolbwyntio ar ddeall canfyddiadau'r cyhoedd o newid hinsawdd, gan adeiladu ar fodelau llythrennedd y môr a dinasyddiaeth forol i archwilio’r syniad o ddinasyddiaeth hinsawdd; mae’r prosiect Trawsffurfio Gwydnwch ar draws Systemau Bwyd a Dŵr wedi’i ariannu gan Gatalydd Y Gronfa Ymchwil i Heriau Byd-eang (GCRF), yn cynnwys asesiad o effaith cymdeithasol, economaidd a diwylliannol gordyfiant algâu; a phrosiect Rheoli Adnoddau Naturiol Morol yn gynaliadwy (SMRR) sydd wedi cael ei ariannu’n ddiweddar ac sy’n ymwneud ag integreiddio gwerthoedd amrywiol o fewn Rheoli Morol y DU, gwaith arweiniol yn ymwneud â llythrennedd y môr.

Emma ydy sylfaenydd Rhwydwaith Y Gwyddorau Cymdeithasol Morol, cymuned ryngddisgyblaethol fyd-eang o ymchwilwyr ac ymarferwyr y gwyddorau cymdeithasol morol ac mae’n Gadeirydd Grŵp Ymchwil Arfordirol a Morol Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol. Hi yw Cydgadeirydd Grŵp Gorchwyl Pwyllgor Cydlynu Gwyddorau Cymdeithasol Morol y DU. Mae hi’n eistedd ar Grŵp Cynghori'r Gwyddorau Cenedlaethol ar gyfer MEOPAR a Chymuned Ymchwil Llythrennedd y Môr IOC-UNESCO.