David Morris

Dirprwy Bennaeth yr Adran Fwyd
Llywodraeth Cymru

Gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad yn y sector bwyd-amaeth, Dave yw Dirprwy Bennaeth presennol yr Adran Fwyd yn Llywodraeth Cymru, yn rheoli pob agwedd ar ddatblygu a gweithredu polisïau bwyd. Mae’n rhyngweithio gyda busnesau a phob rhanddeiliad y sector bwyd/diod, tyfu masnach a buddsoddiad i’r sector.

Mae peth o’i waith blaenorol yn cynnwys arwain ar Raglen Gweithio’n Gallach i wella’r amgylchedd rheoliadol sy’n berthnasol i’r diwydiant ffermio a thir a chyflawni rhagor o effeithlonrwydd i sicrhau dyfodol cynaliadwy, gan gynnwys arwain polisi ar Ddiwygio CAP oedd yn cynnwys canlyniad Gwiriad Iechyd CAP oedd yn cyfateb ag anghenion y diwydiant yng Nghymru.