Mark Grant

Pennaeth y Clwstwr Cynaliadwyedd a Chyfarwyddwr Cyswllt
Llywodraeth Cymru

Mark Grant, Pennaeth y Clwstwr Cynaliadwyedd a Chyfarwyddwr Cyswllt, Levercliff

Gweithiodd Mark yn Tesco am 23 mlynedd ac mae ganddo brofiad mewn cadwyni cyflenwi, gweithrediadau yn y siop, dosbarthiad a phrynu masnachol. Yn ystod ei 5 mlynedd olaf yn Tesco, ef oedd yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli’r gweithrediad masnachol yng Nghymru.

Ers 2014, datblygodd Mark y Strategaeth Categori Bwyd yn y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, sy’n berthnasol i bob agwedd ar wariant bwyd y sector cyhoeddus ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys rhyngweithio rheolaidd gyda phartneriaid cyfanwerthu a gwasanaeth bwyd allweddol a chyda chynhyrchwyr sy’n bwriadu cyflenwi’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Ers ymuno â Levercliff yn 2016, mae Mark wedi helpu sawl cleient i baratoi at gwrdd â phrynwyr masnachol, gan helpu i siapio’r cynnig a’r gweithgaredd cynnyrch.

Yn 2017, lansiwyd Clwstwr Diodydd Cymru y mae Mark yn ei arwain, sy’n helpu i ddatblygu’r Strategaeth Sector Diodydd gyda Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ac sy’n cefnogi 150 o gynhyrchwyr diodydd yng Nghymru.  

Yn 2020, lansiwyd y Clwstwr Cynaliadwyedd gan Lywodraeth Cymru y mae Mark yn ei arwain ochr yn ochr â’r Clwstwr Diodydd, gan weithio gyda dros 80 o gynhyrchwyr o Gymru, y byd academaidd a sefydliadau cymorth i wella eu cymwysterau cynaliadwyedd.  

Mae gan Mark dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector bwyd a diod, gyda 12 o’r rhain yn gweithio’n llwyr ar fwyd a diod Cymreig.