David Jason Murphy

Cyfarwyddwr Gweithrediadau
AMRC Cymru

Peiriannwr siartredig wnaeth ymuno ag AMRC/Cymru yn 2018 ar ôl treulio 10 mlynedd yn yr Alban fel Cyfarwyddwr allforiwr blaenllaw datrysiadau peirianneg i’r sector ynni.  

Graddiodd Jason o Brifysgol Sheffield gyda gradd anrhydedd mewn peirianneg fecanyddol (dyfarnwyd y wobr IMechE iddo am ei waith rhagorol) a gradd feistr mewn rheoli busnes. Yn syth ar ôl ei astudiaethau gradd, gweithiodd i’r Athro Keith Ridgway (sefydlwr AMRC) cyn dechrau ar yrfa fel uwch beiriannwr ar brosiectau dylunio ar gyfer rhai o’r prosiectau morol, olew a nwy a niwclear mwyaf yn y byd (gan weithio llawer yn UDA, Canol America, Ewrop ac Affrica).

Mae Jason ac Andrew Silcox (cyd-gyfarwyddwr AMRC/Cymru) wedi recriwtio tîm medrus a thalentog iawn. Bydd y tîm hwn yn cefnogi busnesau gweithgynhyrchu Cymru ledled ystod amrywiol o sectorau mewn ymgais i wneud ‘Gwerth Uchel’ yn norm. Mae Jason yn teimlo’n gyffrous iawn am yr heriau i’r dyfodol.

Wrth weithio fel Cyfarwyddwr yn yr Alban, gweithiodd Jason hefyd am 7 mlynedd fel gwirfoddolwr ar gyfer Medicinema yn ysbyty plant yn Glasgow. Mae Jason hefyd wrth ei fodd gyda chwaraeon - mae’n feiciwr brwd ac mae wedi cystadlu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn crefftau ymladd.