Dr Prysor Williams

Uwch Ddarlithydd Rheoli Amgylcheddol
Prifysgol Bangor

Mae Dr Prysor Williams yn Uwch Ddarlithydd Rheoli Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, ac yn ffermio defaid yng Nghonwy. Mae ei ymchwil yn trin a thrafod yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cwestiynau ynghylch dwysau cynaliadwy a chyflenwi nwyddau cyhoeddus o ffermdir yng Nghymru. Mae’n aelod ar amryw o bwyllgorau allanol ac yn ymgysylltu gyda diwydiant yn rheolaidd.