Yr Athro Isabelle Durance

Athro Gwyddorau Dŵr Integredig
Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Isabelle Durance yn Athro Gwyddorau Dŵr Integredig ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Caerdydd. Yn rhinwedd ei swydd, ei chenhadaeth yw meithrin ymchwil rhyngddisgyblaethol blaengar a fydd yn effeithiol iawn ac yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth gan lunwyr penderfyniadau. Mae ei chefndir mewn ecoleg, ac mae ganddi lawer iawn o ddiddordebau megis gwasanaethau ecosystem, newid hinsawdd ac ecosystemau afonydd.