Yr Athro Iain Donnison

Pennaeth Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Prifysgol Aberystwyth

Mae’r Athro Iain Donnison yn Bennaeth y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei waith yn cynnwys cymhwyso bridio planhigion a datblygu strategaethau ar gyfer addasu i newid hinsawdd, a’i lliniaru. Mae wedi ymrwymo i weithio gyda diwydiant a llunwyr polisïau fel bod ymchwil academaidd yn cael ei drosi i gyflawni manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.