Dr Richard Unsworth

Athro Cyswllt y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe
Prifysgol Abertawe

Mae Dr Richard Unsworth yn Athro Cyswllt yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae wedi gwneud gwaith ymchwil helaeth ar y rhan y gall dolydd morwellt, sy’n amgylchynu ein harfordir yma yng Nghymru, ei chwarae o ran amsugno carbon ac arafu newid hinsawdd. Mae’n gyfarwyddwr ac yn un o sylfaenwyr Project Seagrass, sydd wedi ymrwymo i gadwraeth ecosystemau morwellt.