Ian Rickman

Ian Rickman, Dirprwy Lywydd
FUW/UAC (Undeb Amaethwyr Cymru)

Mae Dirprwy Lywydd FUW, Ian Rickman yn ffermwr defaid o Sir Gaerfyrddin, ble mae ef a'i deulu yn cynnal praidd o ddefaid ucheldir o Famogiaid Wynebwyn Llanymddyfri ger Llandeilo. Mae gan y fferm hefyd Hawliau Pori Comin ar y Mynydd Du ac mae Ian yn aelod o Bwyllgor Rheoli Cymdeithas Porwyr Gorllewin y Mynydd Du. Mae Ian yn treialu prosiectau amrywiol ar ei fferm i fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholled bioamrywiaeth, megis coleri tracio i ddefaid ar y comin, hadu mewn gwndwn llysieuol, ymgymryd â phrofi pridd, cynllunio rheolaeth maetholion ac ôl troed carbon fel rhan o grŵp trafod lleol.