Phil Stocker

CEO/PSG (Prif Swyddog Gweithredol)
NSA /CDdG (Cymdeithas Ddefaid Genedlaethol)

Ymunodd Phil Stocker â'r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol fel Prif Weithredwr yn 2011, wedi 15 mlynedd yn arwain gwaith cefnogol Cymdeithas y Pridd i'w ffermwr organig ac aelodau tyfwyr. Cychwynnodd Phil ei yrfa mewn ffordd ymarferol ac mae ganddo 25 mlynedd o ffermio da byw ac âr o dan ei wregys. Mae wedi rheoli sawl praidd niferus o ddefaid gan gynnwys mamogiaid Caergrawnt, pedigri Llŷn, Mules a defaid oedrannus Beulah Speckles. Caniataodd ffermio defaid i Phil a'i wraig gychwyn eu menter rhannu ffermio eu hunain ble gwnaethon nhw ddatblygu gwerthiant bocs uniongyrchol ochr yn ochr â llwybrau mwy confensiynol i'r farchnad. Yn ei rôl gyda'r GDdG (NSA) mae wedi ymroi i'r Gymdeithas gael ei hadnabod fel y pwynt ffocws i faterion  ffermio defaid llawr gwlad y DU. Gan edrych tuag allan, mae'n angerddol fod defaid yn cael eu hadnabod am y rôl holistaidd maent yn chwarae ar uwchdiroedd a gwastadeddau, ac yn frwd fod ffermio defaid yn canfod ffordd o gynnal llawer o'i draddodiad a'i ddiwylliant tra'n gwneud camau technegol i gwrdd â heriau a chyfleoedd y dyfodol.