Dr Clive Walmsley

Prif Gynghorydd Arbenigol: Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio
Adnoddau Naturiol Cymru

Darpara Clive arweiniad i ANC/ NRW ar faterion strategol newid hinsawdd, yn darparu cyngor arbenigol i sicrhau fod risgiau ac effeithiau wedi eu gwerthuso a'u rheoli yn fewnol, gan gynghori yn allanol ar oblygiadau newid hinsawdd i Gymru. Ffocws allweddol yw sicrhau agwedd seiliedig ar dystiolaeth i integreiddio gostyngiad ac addasiad i waith ANC/ NRW a gofalu mynd i'r afael â newid hinsawdd drwy reolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol. Mae wedi cyfrannu at gynhyrchu arweiniad ar addasu i newid hinsawdd o fewn y DU, ac yn rhyngwladol i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Mae hyn wedi canolbwyntio’n benodol ar y rhyngweithio rhwng newid hinsawdd, bioamrywiaeth a phrosesau ecosystem. Mae Clive yn cadeirio Grŵp Rhyngasiantaethol Newid Hinsawdd y DU sy'n darparu cydgysylltu ar draws asiantaethau statudol amgylcheddol y DU, sy'n cydweithredu yn gyfredol ar adolygiad o ddatrysiadau seiliedig ar natur y DU. Yn flaenorol ymgymerodd ag ymchwil ecolegol, yn arbenigo mewn ecoleg planhigion arfordirol ac adfer cynefin. Mae wedi bod yn aelod o Gomisiwn Newid Hinsawdd i Gymru ac yn  Gyfarwyddwr Outreach i'r comisiwn Newid Hinsawdd i Gymru.