Mike Corcoran

Ymgynghorydd Cyswllt
Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru

Mae Mike Corcoran yn helpu pobl i fod yn angerddol am y pethau sydd wir yn bwysig.

Yn arbenigwr mewn cyfathrebu, ymrwymo, a chyd-gynhyrchu, mae wedi gweithio gyda chleientiaid ledled y byd, yn amrywio o ficrofentrau i lywodraethau. Mae’n Ymgynghorydd Cyswllt gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru (yn arwain ar eu Prosiect Cydgynllunio gydag Adfywio Cymru), yn Ymchwilydd Gwadd ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam, ac yn Ymddiriedolwr Cerddorfa siambr enwog NEW Sinfonia.

Yn hyrwyddwyr angerddol o gyswllt y cyhoedd â’r celfyddydau a’r gwyddorau, mae Mike wedi arwain rhaglenni allgymorth, gwyliau, arddangosfeydd, a digwyddiadau sy’n cyrraedd dros 100,000 o bobl o bob oed a gallu. Mae ganddo radd mewn Ffiseg ac Athroniaeth o Brifysgol Durham ac yn Gymrawd Cysylltiol yn yr Academi Addysg Uwch.  

Pan nad yw’n gweithio, yn aml gellir dod o hyd iddo ar ben mynydd neu’n cerdded llwybr yr arfordir yng ngogledd Cymru – yn ei fro ei hun.