Neville Evans

Cadeirydd
Bryngwran Cymunedol

Swyddog llywodraeth leol wedi ymddeol ac yn ŵr o Fôn - wedi ei eni a'i fagu ym Mryngwran. Mae wedi gweithio i Gyngor Sir Gwynedd a Chonwy fel Ymchwilydd a Swyddog Polisi a Pherfformiad. Nawr mae'n cadeirio Bryngwran Cymunedol Cyf, y fenter gymdeithasol nid er elw a achubodd ac sydd nawr yn rhedeg yr Iorwerth Arms fel tafarn a redir gan y gymuned. Ar lefel leol bu'n gynghorydd cymuned, clerc i'r cyngor cymuned a llywodraethwr ysgol i ysgolion lleol cynradd ac uwchradd.