Teresa Walters

Cyfarwyddwr Datblygu
Tir Coed

'Rwyf wedi gweithio o fewn datblygu cymunedol dros gyfnod o 30 mlynedd mewn gwahanol rannau o Gymru, unai fel gwirfoddolwr neu fel aelod o staff, mewn ymchwil, codi arian, rheoli prosiect, cyflwyno, marchnata a gwerthuso ar gyfer ystod o brosiectau amgylcheddol, dysgu, awyr agored ac economaidd. Fi yw'r Cyfarwyddwr Datblygu (ac ar hyn o bryd yn llanw i'r PSG) i Dir Coed. Rydym yn elusen gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol lawr gwlad ac rydym yn cysylltu pobl ddifreintiedig รข natur drwy wirfoddoli, addysg, hyfforddi a gweithgareddau pwrpasol sy'n gwella lles, datblygu sgiliau a gwella coetiroedd a chynefinoedd naturiol er budd pawb.