Jeremy Wadia

Cyd-sylfaenydd
Eco Dewi

Jeremy yw cyd-sylfaenydd Eco Dewi, grŵp cymunedol yn canolbwyntio ar brosiectau er budd yr amgylchedd a'r gymuned ym Mhenrhyn Tŷ Ddewi yn Sir Benfro. Mae prosiectau'r grŵp yn cynnwys : gardd gymunedol, perllannau cymunedol, cynllun hyrwyddo dolydd bach, glanhau traethau yn rheolaidd a threfnu sgyrsiau a digwyddiadau ymwybyddiaeth amgylcheddol. Mae Eco Dewi yn dyheu am sefydlu prosiect ynni cymunedol, cefnogi gwerthiant a chynhyrchu bwyd lleol, a hefyd helpu sefydliadau lleol gyda datgarboneiddio a gwelliannau cynaliadwyedd. Mae Jeremy wedi gweithio a gwirfoddoli mewn ymwneud cymunedol a gwarchod bywyd gwyllt dros y 5 mlynedd diwethaf, cyn hynny gweithiai yn y diwydiant gemau symudol ac ar lein a chyn hynny bu'n gwasanaethu yn y Fyddin Brydeinig am bron i 10 mlynedd.