Tony Harrington

Cyfarwyddwr yr Amgylchedd
Dŵr Cymru Welsh Water

Tony yw Cyfarwyddwr yr Amgylchedd yn Dŵr Cymru Welsh Water. Datblygodd ei arbenigedd a’i ddiddordeb mewn materion amgylcheddol trwy arwain nifer o dimau amlddisgyblaethol a fu’n cynorthwyo amrywiaeth o brosiectau yn y diwydiannau chwilio am olew a nwy; peirianneg sifil; a gwasanaethau dŵr; a hefyd o fewn y Llywodraeth.

Mae’n Beiriannydd Siartredig ac yn Wyddonydd Siartredig, a hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd, Sefydliad y Peirianwyr Sifil a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Ym mis Rhagfyr 2011, camodd Tony i’w rôl fel Cyfarwyddwr yr Amgylchedd yn DCWW, lle mae’n arwain agendâu Amgylcheddol, Arloesi a Gwyddoniaeth y busnes, gyda’r nod o ddarparu amgylchedd diogel a chynaliadwy i gwsmeriaid DCWW, ac un y byddant yn falch o’i drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Mae Tony wedi’i benodi ar sawl Bwrdd ar sail ei ddiddordeb mewn ymchwil, yn cynnwys Fforwm Ymchwil Diwydiant Dŵr y DU (UKWIR).