Sam Leighton

Rheolwr Gyfarwyddwr
Bombora

Mae Sam yn brif weithredwr busnes rhyngwladol profiadol sydd â chefndir cryf mewn peirianneg a masnachu. Mae Sam wedi trosglwyddo Bombora o fod yn ddatblygiad dyddiau cynnar yn Awstralia i fod yn llwyfan dilysu cynnyrch mWave graddfa lawn yng Nghymru. 

Yn 2017 daeth Bombora yn bartner i’r ymgynghoriaeth ynni ryngwladol Enzen, ac yn 2018 sicrhaodd Gyllid Cronfa Ddatblygiad Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) gwerth £13.4 miliwn ar ffurf grant a weinyddwyd drwy Lywodraeth Cymru.

O’u prif swyddfa yng Nghymru, mae tîm profiadol Bombora yn gweithio ar arddangosiad o dröwr ynni tonnau 1.5MW mwyaf pwerus y byd tra’n datblygu platfform gwynt a thonnau integredig fferm wynt ar y môr gyda’r cwmni peirianneg rhyngwladol TechnipFMC.