Bettina Gilbert

Head of Technical Support and Financial Mechanisms
WRAP

Pennaeth Cymorth Technegol a Systemau Ariannol yn WRAP yw Bettina ac mae’n gyfrifol am weithio gyda busnesau yn y sector cyhoeddus i gynyddu faint o ddeunydd a gaiff ei ail-ddefnyddio neu’i ailgylchu yn ôl i economi’r byd a lleihau dibyniaeth ar ddeunyddiau crai.

O fewn y swydd hon, mae Bettina yn gyfrifol am gynllunio a darparu cymorth technegol a systemau buddsoddi er mwyn goresgyn methiannau’r farchnad, gyrru arloesedd, a chreu economi gylchol gynaliadwy ac effeithlon ar adnoddau.

Ers iddi ymuno â WRAP yn 2010 arweiniodd Bettina’r rhaglenni grant a chymorth busnes yn y DU a thu hwnt, gan weithio gyda sefydliadau yn y sectorau tecstilau, rheoli adnoddau, bwyd a diod, gweithgynhyrchu, a chyhoeddus. Gyda chefndir mewn ymchwil marchnad a rheoli gwybodaeth, mae gan Bettina bron i 20 mlynedd o brofiad mewn cynllunio, darparu a rheoli cymorth technegol a systemau ariannol, a chanddi MBA o Brifysgol Warwick.