David Warren

Pennaeth Datblygiad Polisi Economi Gylchol
Llywodraeth Cymru

David Warren yw Pennaeth Datblygiad Polisi Economi Gylchol yn Llywodraeth Cymru. Mae’n arwain ar ddarparu’r strategaeth economi gylchol yng Nghymru – Mwy nag Ailgylchu yn dilyn ei chyhoeddiad yn gynharach eleni.  Yn flaenorol, gweithiodd David ym mholisi economaidd gan yrru ymlaen y gwaith i baratoi Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru a datganoli trethi busnes i Gymru. Yn ei swyddi blaenorol bu’n gweithio i lywodraeth leol, fel rheolydd ac mewn nifer o ­­­­­­­­swyddi polisi allweddol oddi mewn i Lywodraeth Cymru.