Danielle Bragg

Cyfreithiwr
Capital Law

Ymunodd Danielle â Capital Law ym mis Medi 2017 fel paragyfreithiwr yn y tîm Adeiladu, Ynni a Phrosiectau, gan gymhwyso i’r tîm ym mis Mawrth 2020. 

Mae Danielle yn gwneud gwaith dadleuol yn ogystal â gwaith annadleuol ac yn cynghori amrediad o gleientiaid y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae gwaith annadleuol Danielle yn canolbwyntio’n bennaf ar gyllid datblygu. Mae hi hefyd yn cynghori cleientiaid ar adolygiadau a negodi Cytundebau JCT a Chytundebau NEC, ynghyd â mathau pwrpasol eraill o gytundebau ac apwyntiadau.

Ers Ebrill 2020, mae Danielle wedi bod yn ymwneud yn helaeth â sawl prosiect datgarboneiddio diwydiannol a hynny ar raddfa fawr, wedi’u hariannu gan Ymchwil ac Arloesi'r DU. Sef y “Prosiect Cynllun Clwstwr”, prosiect Clwstwr Diwydiannol De Cymru, a’i chwaer brosiect, y “Prosiect Ymateb”. Cynorthwyodd Danielle gyda sefydlu’r Cytundebau Cydweithio ar gyfer y ddau brosiect gan roi cyngor strategol ar risgiau ac ar liniaru, ar gynllunio ac ar arwain ar reoli prosiectau a chyngor cyfreithiol ad-hoc ar ymholiadau penodol gan bartneriaid y prosiect. Yn ei rôl flaenorol mewn cwmni ynni, cafodd Danielle brofiad o ddelio gyda chytundebau NEC a chytundebau ynni (Cynigion Cysylltiad a Chytundebau) wrth gefnogi’r Cyfarwyddwr Masnachol & Cyfreithiol. Arweiniodd Danielle y broses o ennill hawddfreintiau gyda Gweithredwyr y Rhwydwaith Dosbarthu (DNOs) a gweithredwyr y rhwydwaith nwy, i gysylltu cyfryngau gwasanaeth (fel, trydan, nwy a thelathrebu) gyda’r gorsafoedd ynni mae’r cwmnïau ynni wedi’u hadeiladu.