Sophie Howe

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Gyda chyfrifoldeb wedi ei nodi yn y gyfraith i fod ”yn warcheidwad buddion cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru”, Sophie Howe yw’r unig Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn y byd. Fel un a ddisgrifiwyd gan y Guardian fel ‘Gweinidog cyntaf y byd dros y rhai sydd Heb eu Geni’, ei rôl yw rhoi cyngor i’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru ar gyflawni llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ac asesu ac adrodd ar y modd y maent yn cyflawni hyn. 

 

Cychwynnodd Sophie ar ei swydd yn 2016 ac mae wedi arwain ymyriadau proffil uchel yn ymwneud â chynllunio trafnidiaeth, diwygio addysg a’r newid yn yr hinsawdd, gan herio’r Llywodraeth ac eraill i ddangos sut y maent yn ystyried cenedlaethau’r dyfodol. Fel un a ddisgrifiwyd gan y Cylchgrawn Big Issue fel un o’r Gwneuthurwyr Newid mwyaf blaengar yn y DU, mae ei hymyriadau wedi sicrhau newidiadau sylfaenol mewn polisi cynllunio defnydd tir, cynlluniau trafnidaeth o bwys a pholisi’r Llywodraeth ar dai – gan sicrhau bod y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud heddiw yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae wedi cynrychioli Cymru yn y Cenhedloedd Unedig, Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ac ar nifer o Fforymau Rhyngwladol yn cynnwys cadeirio ‘Rhwydwaith o Sefydliadau ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol’. 

 

Cyn cychwyn ar y rôl hon roedd Sophie’n Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru lle bu’n arwain rhaglenni i fynd i’r afael â throseddu treisgar a thrais yn erbyn menywod a phlant, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a gweithio mewn partneriaeth. Diwygiodd raglenni ar gamddefnyddio sylweddau a rheoli troseddwyr ac arweiniodd raglen gyntaf yr heddlu wedi ei dylunio i fynd i’r afael â thrallod yn ystod plentyndod. Mae Sophie wedi gwasanaethu fel Cynghorydd i ddau o Brif Weinidogion Cymru gan roi cyngor ar bolisi a gwleidyddiaeth cymunedau, llywodraeth leol, cydraddoldeb a diogelwch cymunedau lle gwnaeth arwain at ddatblygu deddfwriaeth gyntaf Cymru i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. 

 

Cafodd ei hethol yn Gynghorydd am 9 mlynedd o 21 oed, ac fe ysgrifennodd adroddiad Comisiwn y Cynghorwyr 2009 a arweiniodd at ddiwygiadau deddfwriaethol ar gynyddu amrywiaeth ymhlith aelodau etholedig. Fel un a fu’n rheoli Adran Gyfreithiol y Comisiwn Cyfle Cyfartal mae ganddi gefndir mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

 

Mae wedi ei henwi ymhlith y 100 o brif Fenywod Busnes yng Nghymru; mae’n gymrawd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe; mae’n dal Doethuriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chanddi radd yn y gyfraith a gwleidyddiaeth. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’u pump o blant.