Shea Buckland-Jones

Rheolwr Polisi Defnydd Tir a Natur
WWF Cymru

Mae Shea Buckland-Jones yn Rheolwr Polisi Bwyd, Defnydd Tir a Natur WWF Cymru. Bu Shea yn gweithio yn y sector amgylchedd am bron i 15 mlynedd, sy’n cynnwys ei amser yn arwain prosiect Ailfywiogi Cymru yn y Sefydliad Materion Cymreig. Mae natur, bwyd a ffermio yn agos iawn at galon Shea, gan iddo gael ei fagu yn agos at fferm ei dad-cu yng Nghwmaman.