Tim Ash Vie

Cyfarwyddwr
Ysgrifenyddiaeth y Glymblaid Under2, Y Grŵp Hinsawdd

Mae Tim Ash Vie wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Ysgrifenyddiaeth y Glymblaid Under2 ers 2017. Mae'r Glymblaid Under2 yn rhwydwaith rhyngwladol blaengar o 260 o lywodraethau cenedlaethol a gwladol sydd wedi ymrwymo i weithredu uchelgeisiol dros yr hinsawdd, gydag aelodau mewn dros 40 o wledydd ac ym mhob cyfandir gan gynnwys 50% o’r GDP byd-eang. Ar ddechrau’r mileniwm, gweithiodd Tim i Lywodraeth y DU yn datblygu ymatebion y wlad i newid yn yr hinsawdd cyn canolbwyntio ar yr her benodol o newid yn yr hinsawdd mewn gwledydd datblygol. Mae ganddo bron i ugain mlynedd o brofiad yn y ddarpariaeth o weithredu dros yr hinsawdd yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae profiad personol Tim mewn newid yn yr hinsawdd yn ymestyn dros Tsieina, Mecsico, Bangladesh, India, Indonesia, Ethiopia, Kenya, Nigeria, Rwanda, Zambia a De Affrica.