Sue Husband

Cyfarwyddwr
BITC Cymru

Sue Husband yw Cyfarwyddwr Business in the Community (BITC) Cymru, gyda chenhadaeth i roi busnes cyfrifol wrth wraidd pob busnes yng Nghymru.

Yn flaenorol, bu Sue’n uwch was sifil yn yr Adran Addysg, yn goruchwylio’r Gwasanaeth Prentisiaethau Cenedlaethol a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol. Ar ddechrau ei gyrfa, bu Sue’n gweithio i McDonald’s UK mewn llawer o swyddi yn arwain ar raglenni addysg a phrentisiaeth McDonald’s.

Bellach, mae Sue yn cefnogi busnesau yng Nghymru i fod yn gyflogwyr cyfrifol, gan gynnwys creu cyflogaeth ystyrlon ac ail-greu ffyrdd o weithio sy’n trawsnewid iechyd meddwl a lles yn y gwaith.

Dyfarnwyd OBE i Sue am ei gwasanaethau Addysg a Sgiliau, a chafodd ei chynnwys yn rhan o restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines 2021.