Vyvyan Evans

Rheolwr Prosiect Gwlyptiroedd
Dwr Cymru Welsh Water

Ar ôl graddio, bu Vyvyan yn gweithio yn y sector cyhoeddus ar waith ymchwil yn ymwneud â Newid Hinsawdd a Rheolaeth Amgylcheddol. Yna, ymunodd Vyvyan â’r sector elusennol, lle bu’n gweithio yn y DU a dramor ar brosiectau Amgylcheddol ac Ymateb Dyngarol. Yn ystod y gwaith hwn, gwelodd yn rhy aml o lawer sut y câi cynaliadwyedd prosiectau a’u heffeithiau amgylcheddol eu hanwybyddu’n fynych yn ystod y brys i ymateb i’r argyfwng neu’r anghenion datblygu byrdymor; gan roi llwyddiant hirdymor yr amgylchedd a’r defnyddwyr lleol yn y fantol. Felly, penderfynodd Vyvyan ddychwelyd i’r brifysgol i astudio MSc mewn Diogelwch Dŵr a Datblygu Cynaliadwy ym Mhrifysgol East Anglia. Erbyn hyn, mae Vyvyan yn Rheolwr Prosiect Gwlyptiroedd yn Dŵr Cymru, ac mae’n gweithio ar amrywiaeth o brosiectau sy’n gysylltiedig â thargedau Atebion Seiliedig ar Natur i Drin Dŵr Gwastraff. Oddi allan i Dŵr Cymru, mae Vyvyan yn cadw gwenyn ac yn dysgu sut i farcudfyrddio.