Clare Pillman

Prif Weithredwr
Cyfoeth Naturiol Cymru

Clare Pillman yw Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, ac ymunodd â’r sefydliad ym mis Chwefror 2018. Daeth â chyfoeth o brofiad gyda hi i arwain y sefydliad sy’n gyfrifol am drawsnewid y ffordd y rheolwn adnoddau naturiol er budd amgylchedd, pobl ac economi Cymru.

Ers iddi gamu i’r swydd, mae Clare wedi goruchwylio’r gwaith o ddatblygu cynllun corfforaethol newydd ac uchelgeisiol lle pennir cyfeiriad y sefydliad ar gyfer y pum mlynedd nesaf, a hefyd mae wedi goruchwylio’r gwaith heriol o ad-drefnu’r sefydliad er mwyn i’r staff allu cyflawni ei uchelgeisiau.

A hithau wedi’i magu yng Nghymru, mae’n danbaid dros amgylchedd Cymru ac mae wedi ymrwymo i’w ddiogelu a’i gyfoethogi er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Cyn hyn, arferai Clare fod yn Gyfarwyddwr Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Yn y rôl hon bu’n arwain gwaith yn ymwneud â’r Olympiad Diwylliannol ac yn goruchwylio rhaglen newid fawr o fewn yr Adran.

Rhwng 2004 a 2011 Clare oedd yn gyfrifol am redeg Gwasanaeth y Llysoedd yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n cadeirio Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol Gogledd Cymru, bu’n arwain ymgyrch dros gael carchar yng Ngogledd Cymru a hefyd bu’n arwain Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yng Nghymru – sef y corff Cymru gyfan cyntaf i ennill y wobr Chartermark am Wasanaethau i Gwsmeriaid.

Yn y gorffennol, bu Clare yn Aelod o Fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru ac yn Ymddiriedolwr y Sefydliad Ymchwil Canser yn Llundain am ddeg mlynedd.