Eleri Williams

Dadansoddwr Newid
Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Mae Eleri yn cefnogi aelodau’r tîm gyda gwaith ymchwil a dadansoddi gan ganolbwyntio’n benodol ar gydraddoldeb. Yn ddiweddar, mae hi wedi goruchwylio gwaith ymchwil i effaith tebygol tueddiadau’r dyfodol ar anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli. Yn flaenorol, mae Eleri wedi gweithio yn y trydydd sector, yn gweithio ar brosiectau sy’n canolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud ag hil a chyfiawnder cymdeithasol. Mae hi’n angerddol am sicrhau bod lleisiau a phrofiadau’r cymunedau hyfryd o amrywiol sydd yng Nghymru, yn ganolog i ddatblygu polisïau.