Ella Smillie

Cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd
Benthyg Cymru

Mae Ella wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn gweithio yn y byd polisi hysbysebu a’r cyfryngau, yn fwyaf nodedig ar y tîm polisi rheoliadol gyda’r Pwyllgorau Ymarfer Hysbysebu, lle cychwynnodd a rheolodd brosiect yr Awdurdod Safonau Hysbysebu ar stereoteipiau rhywedd mewn hysbysebu, gan arwain at waharddiad ar stereoteipiau niweidiol. Aeth yn ei blaen wedyn i weithio fel Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd yn y Gymdeithas Fawcett, yn parhau i wthio am gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Cydsefydlodd Ella Lyfrgell Pethau cyntaf Cymru yn 2016, ac mae hi bellach yn gweithio’n llawn amser i wneud benthyg yng Nghymru mor hawdd â phicio allan i brynu torth o fara.