Natalie Rees

Rheolwr Datblygu Cynaliadwy
Trafnidiaeth Cymru

Arbenigwr mewn datblygu cynaliadwy yw Natalie Rees, ac mae ganddi fwy na 18 mlynedd o brofiad. Caiff Natalie ei chyflogi gan Trafnidiaeth Cymru, a’i rôl yw ymwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y sefydliad, ei brosiectau a’i weithrediadau. Ers dwy flynedd, mae Natalie wedi bod yn gweithio ar ddatgarboneiddio yn Trafnidiaeth Cymru, gan helpu i lunio ôl troed carbon y sefydliad a gweithio gyda chydweithwyr er mwyn helpu i bennu llwybr tuag at gael Trafnidiaeth Cymru sero-net erbyn 2030.