Shea Buckland-Jones

Rheolwr Polisi Bwyd, Defnydd Tir a Natur
WWF Cymru

Shea Buckland-Jones yw Rheolwr Polisi Bwyd, Defnydd Tir a Natur WWF Cymru. Mae wedi gweithio yn sector yr amgylchedd ers bron i 15 mlynedd, ac mae hyn yn cynnwys yr amser a dreuliodd ar y prosiect Ail-egnïo Cymru yn y Sefydliad Materion Cymreig. A hithau wedi’i magu yng Nghwmaman ger fferm ei thad-cu, mae Shea yn danbaid dros natur, bwyd a ffermio.