Rhys Evans

Arweinydd Ffermio Cynaliadwy
Rhwydwaith Ffermwyr Cymru Er Lles Natur

Rhys Evans yw Arweinydd Ffermio Cynaliadwy Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur Cymru. Gyda’i rieni a’i frawd, mae Rhys hefyd yn cynorthwyo i redeg fferm y teulu yn Rhyd-y-main ger Dolgellau, Gogledd Cymru. Mae gan y teulu ddiadell o Ddefaid Mynydd Cymreig a buches bedigrî o Wartheg Duon Cymreig a ddefnyddir i reoli oddeutu 700 acer o dir bryniog a mynyddig. Mae hefyd yn naturiaethwr brwd ac mae ganddo gefndir amgylcheddol. Treuliodd dair blynedd yn gweithio fel Swyddog Cadwraeth yn Cyfoeth Naturiol Cymru a thros bedair blynedd yn gweithio fel Swyddog Polisi Bwyd a Ffermio yn RSPB Cymru. Mae’n danbaid dros natur a ffermio ac mae’n awyddus i ddangos sut y gall – ac y dylai – y ddwy elfen fynd law yn llaw.