Vaughan Gething AS

Gweinidog yr Economi

Ganwyd Vaughan yn Zambia a’i fagu yn Dorset. Cafodd ei addysgu ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Mae ganddo un mab gyda’i wraig, Michelle ac mae’n gricedwr sydd wedi bron ymddeol yn llwyr a hefyd yn gefnogwr rygbi a phêl-droed. 

Roedd Vaughan yn gyfreithiwr ac yn gyn-bartner yn Thompsons. Mae’n aelod o undebau GMB, UNSAIN ac Unite, ac ef oedd Llywydd ieuengaf erioed TUC Cymru. Gwasanaethodd yn y gorffennol fel cynghorydd sir, llywodraethwr ysgol ac fel gwirfoddolwr gwasanaethau cymunedol – yn cefnogi a gofalu am fyfyriwr â pharlys yr ymennydd. Mae Vaughan hefyd yn gyn-lywydd o UCM Cymru.

Rhwng 1999 a 2001, gweithiodd Vaughan fel ymchwilydd i’r cyn ACau Val Field a Lorraine Barrett a rhwng 2001 a 2003, bu’n gadeirydd Hawl i Bleidleisio – prosiect trawsbleidiol i annog mwy o gyfranogiad gan gymunedau ethnig lleiafrifoedd du ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae hefyd yn aelod cyfredol o’r Blaid Gydweithredol.

Mae Vaughan wedi gweithio yn y swyddi canlynol gyda’r llywodraeth, cyn ymgymryd â’i swydd bresennol fel Gweinidog yr Economi ym mis Mai 2021:

  • Ysgrifennydd y Cabinet / Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mis Mai 2016 i Fis Mai 2021
  • Dirprwy Weinidog Iechyd mis Medi 2014 i fis Mai 2016
  • Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi mis Mehefin 2013 i fis Medi 2014