Rt. Hon John Gummer Lord Deben

Y Gwir Anrhydeddus John Gummer, yr Arglwydd Deben, a sefydlodd Sancroft, sef cwmni ymgynghorol Cyfrifoldeb Corfforaethol sy’n gweithio gyda chwmnïau o’r radd flaenaf ledled y byd ar faterion amgylcheddol, cymdeithasol a moesegol. Yr Arglwydd Deben yw Cadeirydd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, Valpak Cyfyngedig, a’r Gymdeithas Rheoli Buddsoddiadau Personol a Chynghorwyr Ariannol. Ef oedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd hiraf ei wasanaeth yn hanes y DU (1993-97). Mae ei un mlynedd ar bymtheg o brofiad gweinidogol lefel uchel hefyd yn cynnwys cyfnodau fel Gweinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd, Gweinidog Llundain, Gweinidog Cyflogaeth, a Thâl-feistr Cyffredinol yn Nhrysorlys Ei Mawrhydi. Mae wastad wedi hyrwyddo tebygrwydd rhwng pryderon amgylcheddol a synnwyr busnes.