Joshua Beynon

Alumni Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol

Ym mis Mai 2017, Josh oedd y person ifanc cyntaf yn ei arddegau i gael ei ethol yn Gynghorydd ar Gyngor Sir Penfro. Ef yw Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu, sef swydd y mae wedi’i dal am ddwy flynedd. Hyd yn hyn, mae Joshua wedi arwain yr Adolygiad o Wasanaethau Gwastraff a’r grŵp Carbon Sero-net. Cafodd yr Adolygiad o Wasanaethau Gwastraff y dasg o wella gwasanaethau gwastraff y cyngor, gan arwain at gynnydd o fwy na 10% yn y cyfraddau ailgylchu yn ystod y flwyddyn gyntaf. Arweiniodd y grŵp Carbon Sero-net at gyhoeddi cynllun gweithredu cyntaf erioed y cyngor ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae angerdd Josh dros waith cymunedol ac ymgysylltu â’r gymuned wedi bod yn amlwg drwy gydol ei yrfa. Mae wedi gweithio gyda chymunedau er mwyn ymgysylltu â nhw a gwella’r canlyniadau i bawb, yn ogystal â gweithio gyda’r cyngor gwirfoddol Lleol, y GIG, cwmnïau buddiannau cymunedol ac elusennau sy’n gweithio yn y maes cynaliadwyedd, gan wella’r canlyniadau i bawb trwy gydgynhyrchu a llunio gwasanaethau sydd â phobl wrth eu calon a’u craidd.

Yn ychwanegol at ei rôl fel Cynghorydd, mae Josh yn gweithio i’r GIG fel Swyddog Allgymorth Datblygu Cymunedol. Mae’n Gynghorydd Tref, yn Ymddiriedolwr ac yn Llywodraethwr Ysgol, a hefyd yn eiriolwr tanbaid dros wasanaethau cyhoeddus.