Emily-Rose Jenkins

Alumni Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Emily-Rose yn arweinydd ifanc angerddol sy’n gweithio fel Cynghorydd Arbenigol yn y maes rheoli perygl llifogydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae ganddi brofiad amrywiol o weithio yn y sector cyhoeddus – sef y sector rheilffyrdd a’r sector amgylcheddol – ac mae’n canolbwyntio ar reoli asedau a deall y cysylltiad rhwng newid hinsawdd a dyfodol ymaddasu. Mae Emily-Rose yn credu mewn gweithio gyda natur yn hytrach nag yn ei herbyn, gan ymchwilio i ddulliau ar gyfer rhagfynegi a rheoli peryglon naturiol fel y gellir atal marwolaethau a methiannau trychinebus.

Mae Emily hefyd yn danbaid iawn dros gynnig llais mewn amgylchedd sydd, ar y cyfan, yn cael ei reoli gan ddynion. A hithau wrthi’n gweithio tuag at Nod Datblygu Cynaliadwy 5 – Cydraddoldeb Rhywiol, mae Emily-Rose yn mynychu cynadleddau, ysgolion ac amryfal weithdai i rymuso merched trwy gyfrwng STEM (sef gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).