Ruth Stevenson

Uwch-ddarlithydd
Ysgol Raddedig yr Amgylchedd, Canolfan y Dechnoleg Amgen

Mae Ruth Stevenson yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Raddedig yr Amgylchedd yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CAT).

Gwyddonydd cymdeithasol amgylcheddol yw hi, ac mae ganddi fwy na 25 mlynedd o brofiad mewn gwaith ymgynghori ac ymchwil ym maes yr amgylchedd a chynaliadwyedd, gan arbenigo mewn newid systemau a hyrwyddo arferion cynaliadwy.

Mae Ruth yn gweithio’n agos gyda Labordy Arloesi CAT er mwyn gweithredu newidiadau systemig ar lawr gwlad ac ar lefel sefydliadol.