Anna Bullen

Rheolwr y Labordy Arloesi
Canolfan y Dechnoleg Amgen

Anna Bullen yw Rheolwr y Labordy Arloesi yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CAT). Nod y labordy arloesi yw pennu rhwystrau allweddol sy’n ein hatal rhag cyrraedd sero-net, ynghyd â dwyn rhanddeiliaid priodol ynghyd i gydlunio atebion cynaliadwy effeithiol ac addas i’r diben.

Mae Anna yn hwylusydd profiadol a chymwysedig, yn ymchwilydd cymdeithasol ac yn rheolwr prosiect a chanddi 25 mlynedd o brofiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyd-greu methodolegau yn y maes cynaliadwyedd. Mae wedi gweithio yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat, gan fynd ati i lunio a hwyluso prosesau cydweithredol ar gyfer amrywiaeth eang o grwpiau ac unigolion mewn amryfal leoliadau.

Mae gan Anna BA mewn Rheolaeth Amgylcheddol a Datblygu Adnoddau, MA mewn Mannau, Lleoedd a Gwleidyddiaeth, a PhD mewn Dinasyddiaeth Gynaliadwy.