Dr Stuart Capstick

Leading the Centre for Climate Change and Social Transformation
Prifysgol Caerdydd

Mae Stuart Capstick yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n un o arweinwyr gwaith ymchwil y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol sy’n llunio ac yn treialu dulliau newydd o esgor ar newid ar bob lefel – o lefel yr aelwyd i lefel genedlaethol.

Mae Stuart yn ymchwilio i ddealltwriaeth y cyhoedd o newid hinsawdd a ffyrdd o ennyn diddordeb pobl yn y newidiadau sy’n angenrheidiol i leihau allyriadau. Mae wedi arwain gwaith a oedd yn ystyried sut y gall gwyddorau cymdeithasol gyfrannu at leihad mwy radical mewn allyriadau trwy newid ymddygiad a ffyrdd o fyw. Ymhellach, mae ei waith ymchwil wedi ystyried sut y gellir datblygu dulliau cyfathrebu effeithiol mewn perthynas â newid hinsawdd, a bu’n gweithio gydag eraill ar draws y gwyddorau naturiol a chymdeithasol ac yn y gymdeithas sifil. Fel rhan o’i waith ymchwil yn y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol, mae Stuart yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i ddatblygu dulliau newydd o fynd i’r afael â newid hinsawdd.