Simone Lowthe-Thomas

Prif Swyddog Gweithredol
Asiantaeth Ynni Hafren Gwy

Simone Lowthe-Thomas yw Prif Swyddog Gweithredol Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, sef elusen nid-er-elw sy’n gweithio ledled Cymru a siroedd y gororau ers mwy nag 20 mlynedd i gefnogi newid o ran ynni, dileu tlodi tanwydd a chreu cymunedau cadarn.

‘Gweithredu nawr er budd y dyfodol’ yw’r dull a roddir ar waith gan Hafren Gwy, ac mae’r elusen yn mynd ati i wneud hyn trwy weithio’n lleol, mewn partneriaeth â chymunedau a mudiadau’r sectorau cyhoeddus a phreifat i gydlunio atebion cynaliadwy ar gyfer heriau amgylcheddol a chymdeithasol.

Mae gan Simone fwy na 25 mlynedd o brofiad yn y sector ynni cynaliadwy a’r sector amgylcheddol, ac mae’n arbenigo mewn prosiectau ynni cymunedol ac ymgysylltu â chymunedau.

Simone yw Is-lywydd Ymgysylltu â Dinasyddion Ffederasiwn Asiantaethau Ynni Ewrop, sef Fedarene, ac roedd yn un o aelodau bwrdd sefydlol Ynni Cymunedol Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n Gadeirydd ac yn aelod o fwrdd Pwyllgor Cyllido Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.