Meinir Howells

Cyflwynydd, Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd
Telesgop

Mae Meinir yn gyflwynydd ar un o brif raglenni amaethyddol y Deyrnas Unedig, sef Ffermio. Mae’n gweithio’n rhan-amser fel Cyflwynydd, Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd ar gyfer Telesgop, sef y cwmni o Abertawe sy’n cynhyrchu ‘Ffermio’. Mae wedi gweithio ar nifer o gynyrchiadau, rhai byw a rhai wedi’u recordio ymlaen llaw, yn cynnwys rhaglenni Cymraeg a Saesneg yn ymwneud â Sioe Frenhinol Cymru ac amryw byd o raglenni arbennig yn ymwneud â gwahanol ddigwyddiadau ledled y DU, a hefyd mae wedi cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni radio. Un o’r uchafbwyntiau i Meinir oedd pennod arbennig o ‘Ffermio’ a oedd yn awr o hyd ac a ddarlledwyd yn fyw o’i sied ddefaid yn Llandysul. Yn ôl Meinir, gwibiodd yr awr honno heibio, gyda bywyd newydd a drama o’i chwmpas ym mhob man.

Yn ogystal â’i gwaith ar y teledu, mae Meinir wrth ei bodd ar y fferm. Ffermio yw’r hyn y mae’n troi ato yn ystod pob munud sbâr! Mae Gary ei gŵr (pencampwr da byw NFU Cymru ar hyn o bryd) a Meinir yn ffermio gyda’i gilydd yn Shadog ym Mhentrecwrt, Llandysul, ac ers iddyn nhw briodi mae’r ddau wedi bwrw iddi o ddifrif i ddatblygu a gwella’r da byw a’r fferm, gyda help eu dau blentyn, Sioned a Dafydd.

Ar y cyfan, maen nhw’n gwerthu eu stoc ar gyfer bridio. Maen nhw’n cadw 200 o wartheg, sy’n cynnwys 40 o wartheg sugno a stoc ifanc, a bydd bron i 60 o heffrod yn bwrw lloi yn y gwanwyn yn barod i’w gwerthu gyda’u lloi ym mis Mai / Mehefin. Mae ganddyn nhw fuches bedigrî fach o wartheg Limousine, ac maen nhw newydd brynu deuddeg o wartheg Aberdeen Angus yn sêl enwog y gwartheg Blelack yn Stirling fis diwethaf.

O ran defaid, maen nhw’n cadw oddeutu 600 i gyd, rhyw 350 o ddefaid Texel pedigrî, defaid Suffolk pur, defaid Charolais, defaid Beltex a defaid Blueface, ac fe fyddan nhw’n gwerthu oddeutu 150-200 o feheryn bob blwyddyn. Hefyd, maen nhw’n cadw amrywiaeth o wahanol anifeiliaid, o foch i ferlod Shetland.

Roedd Meinir hefyd yn aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd yn Sir Gaerfyrddin, ac yn y gorffennol bu’n Llysgennad, yn Aelod y flwyddyn ac yn Gadeirydd Sirol. Fe fydd hi’n fythol ddiolchgar am y profiadau a’r cyfleoedd lu a ddaeth i’w rhan yn ystod ei hamser fel aelod – o gneifio i ganu a theithio. Ers iddi fynd yn rhy hen i gystadlu, mae hi wrth ei bodd yn hyfforddi pobl ifanc ar gyfer amryfal gystadlaethau, yn cynnwys siarad cyhoeddus a beirniadu stoc.

Dros y blynyddoedd, cafodd y fraint o ennill rhai gwobrau am ei gwaith, yn cynnwys Gwobr Cymdeithas Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig am ei gwasanaethau i Amaethyddiaeth, a gwobr goffa Bob Davies yr FUW yn 2014 am y gwaith a wnaeth i dynnu mwy o sylw at ffermio yng Nghymru. Bu hefyd yn rhan o’r tîm a enillodd sawl gwobr Bafta Cymru am ei waith ar raglenni byw o Sioe Frenhinol Cymru.

Mae ffermio wrth galon a chraidd popeth a wna Meinir, o’i gwaith ar y teledu i’w bywyd ar y fferm. Mae hi’n danbaid dros y diwydiant, ac yn ddiolchgar am gael bod yn rhan o’r gymuned ffermio wych sydd i’w chael yma yng Nghymru.